Marriage Unlocked - Darganfyddwch beth sy’n gwneud priodas hapus
Digwyddiad arbennig ar gyfer cyplau sydd eisiau priodas well.

Bydd y digwyddiad gwych yma’n gyfle i chi ganfod yr allwedd i ddatgloi potensial eich perthynas.
Does dim ots a ydych chi’n ddedwydd eich priodas neu’n mynd drwy gyfnod anodd, p’un ai a ydych chi newydd briodi neu
â blynyddoedd o fywyd priodasol y tu ôl i chi.
Gwybod trwy brofiad beth sy’n gweithio a beth sydd ddim

Richard & Katharine Hill
Mae Richard a Katharine yn briod ers 26 mlynedd ac mae ganddyn nhw bedwar o blant. Maen nhw’n darlithio llawer ar briodas a materion magu plant ac maen nhw wedi ysgrifennu llyfr ar briodas o’r enw ‘Rules of Engagement’. Mae Katharine hefyd yn Gyfarwyddwraig Polisi Teuluol gyda Care for the Family.
Darganfyddwch sut mae:
- cyfathrebu’n fwy onest
- deall ‘iaith gariadus’ eich cymar
- datrys problemau mewn ffyrdd iach
- dod yn fwy agos
- parhau i ganlyn pan rydych chi wedi priodi
Dim gwaith grwp na
chwestiynau chwithig!

Sut i archebu:
Archebwch eich tocynnau trwy ddewis o'r opsiynau ar y dde, neu ffoniwch029 2081 5866
Tocynnau: £12 y cwpwl (£6 y person).
Archebwch docynnau i gwpwl arall am £10!
"Mae’n gwneud i chi feddwl am eich perthynas mewn ffyrdd newydd."
"Ar ôl bron i ddeg ar hugain o flynyddoedd yn briod, dw i wedi dysgu rhywbeth heno ‘ma. Diolch."

Fe gynhaliwyd Wythnos Briodas Prydain am y tro cyntaf ym 1997. Y diben ydy dyrchafu’r bywyd priodasol yn ei holl nwyfusrwydd a’i amrywiaeth fel sylfaen i fywyd teuluol ym Mhrydain. Mae’r wythnos yn dechrau ar y 7fed o Chwefror ac yn terfynu ar wyl Sant Ffolant, sef y 14eg o Chwefror.
Yn anffodus nid oes modd i ni ad-dalu cost unrhyw ddigwyddiad os nad ydych chi’n gallu dod ar ôl prynu tocyn. Gwnewch yn si wr eich bod yn archebu’n ddigon buan. Does gennym ni ddim cyfleusterau ar gyfer plant a babanod yn y digwyddiadau hyn.
Bydd y digwyddiadau trwy gyfrwng y Saesneg.
Yn anffodus, ni fydd yn bosib i ni redeg y digwyddiadau Marriage Unlocked ym mis Chwefror 2012. Does dim digwyddiadau wedi eu drefnu dros y misoedd i ddilyn. Bydd manylion ar gyfer y dyddiadau a'r lleoliadau newydd yn gael eu harddangos cyn gynted ag yn bosib, felly parhawch i ddychwelyd i'r wefan yma.
Mae hefyd yn bosib i chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr ebost, sydd yn cynnwys gwybodaeth ar digwyddiadau yn y dyfodol.
Log in
Register
View basket